SL(5)342 – Rheoliadau Parodrwydd i Ddal Carbon (Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan) (Diwygio) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adran 58B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Parodrwydd i Ddal Carbon (Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan) 2013 ("Rheoliadau 2013") o ganlyniad i ddatganoli, drwy Ddeddf Cymru 2017, y swyddogaethau cydsynio ynni mewn perthynas â gorsafoedd cynhyrchu trydan yng Nghymru sydd â chapasiti nad yw'n fwy na 350 megawat neu a fydd â'r capasiti hwn.

Fe wnaeth Rheoliadau 2013 weithredu Erthygl 36 o Gyfarwyddeb 2010/75/UE Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch allyriadau diwydiannol (atal a rheoli llygredd integredig) (Ail-lunio) (OJ Rhif L334, 17.12.2010, t.17).

Mae rheoliad 2 yn mewnosod diffiniadau newydd.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2013 i wneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau newydd Gweinidogion Cymru o dan Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008 mewn perthynas â gweithfeydd hylosgi yng Nghymru gydag allbwn trydanol â sgôr rhwng 300 a 350 megawat.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliad 6A newydd. Mae rheoliad 6A yn ymwneud â chaniatadau cynllunio ar gyfer adeiladu gweithfeydd hylosgi yng Nghymru gydag allbwn trydanol â sgôr rhwng 300 a 350 megawat (neu ar gyfer estyniadau i weithfeydd hylosgi yng Nghymru sydd â'r effaith o gynyddu sgôr allbwn trydanol y gweithfeydd i rhwng 300 a 350 megawat). Cyn rhoi caniatâd cynllunio o'r fath, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r awdurdod cynllunio lleol (fel sy'n berthnasol) benderfynu a yw amodau penodol yn cael eu diwallu mewn perthynas â dichonoldeb dal a storio carbon. Os caiff yr amodau eu diwallu, rhaid i'r caniatâd cynllunio gynnwys amodau o ran neilltuo gofod addas ar gyfer offer sy'n angenrheidiol i ddal a chywasgu'r holl garbon deuocsid a fyddai fel arall yn cael ei allyrru o'r weithfa.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae dewis o weithdrefn mewn perthynas ag offerynnau a wneir o dan adran 2(2) o'r Ddeddf honno. Mae'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn esbonio y caiff y weithdrefn negyddol ei defnyddio yn yr achos hwn gan fod disgresiwn Gweinidogion Cymru yn gyfyngedig o ran cynnwys yr offeryn gan ei fod yn dod â darpariaethau'r UE i rym.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Bydd Rheoliadau 2013 yn dod yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar y ddiwrnod ymadael, gan eu bod wedi'u gwneud o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

26 Chwefror 2019